Athro Nofio / Swim Teacher - Knighton
Freedom Leisure · Wales, England, GB
Ydych chi am wneud gwahaniaeth oddi fewn i’ch cymuned leol, cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy hamdden? Os ydych chi’n teimlo wedi’ch ysgogi i ysbrydoli po...
Job description
Ydych chi am wneud gwahaniaeth oddi fewn i’ch cymuned leol, cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy hamdden? Os ydych chi’n teimlo wedi’ch ysgogi i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif a gwella eu llesiant ac os hoffech chi gael swydd a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl leol yna Freedom Leisure yw’r lle i chi! Ymddiriedolaeth hamdden nid er elw ydym ni ac mae gennym ni ddiben ac ymroddiad cryf i gefnogi ein cymunedau lleol a grwpiau lleol anodd cyrraedd atynt, i’w hannog i ddyfod yn fwy actif, a chyfrannu at fywydau gwell. O wersi nofio i bêl-droed dan gerdded a phopeth rhyngddynt, cawn ein hysgogi i ddarparu hwyl a sesiynau croesawgar i gefnogi’r gymuned gyfan i fod yn actif, yn ein canolfannau hamdden ac yn y gymuned leol. Yr hyn sy’n dda yw ein bod ni’n darparu hyfforddiant llawn i chi a photensial grêt am ddilyniant gyrfaol. Mae gennym dros 100 o gyfleusterau yng Nghymru a Lloegr – mae llawer o’n staff wedi adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus gyda ni am eu bod nhw’n caru cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol a mwynhau’r amrywiaeth mae’r rôl yn ei darparu. Rydym yn chwilio am Athrawon Nofio sy’n siarad Cymraeg, i ymuno â’r tîm cyfeillgar a phroffesiynol. Byddwch yn rha...